Fy rhan yw'r Oen fu farw
ar ben Calfaria draw;
Caf fod yn un o'i gwmp'ni
y dedwydd ddydd a ddaw;
Mae 'nawr yn eiriol drosof
o fewn i deyrnas ne',
Gan ddadleu'i waed a'i glwyfau,
bob mynyd, yn fy lle.
'Fe yw'm Cyfryngwr anwyl
heddychodd fi â'r Tad,
Fy Archoffeiriad gwerthfawr
aberthodd troso'i wa'd;
Fy Mrenin yw a'm Proffwyd,
fe'm dysg o awr i awr;
Fy Mhriod cu a'm Cyfaill
i drag'wyddoldeb mawr.
'Does pleser tan y nefoedd
na hoffder yn y byd,
Ond Iesu'r perl dymunol
foddlona'm henaid drud;
Mi ymddiriedaf yntho
beth bynnag etto ddel,
Fy mywyd yn ei glwyfau
a guddiwyd yn ddigel.
Trwy foroedd o gystuddiau
fe'm harwain adre'n iach,
Dihangaf trwy'r Iorddonen
i'm gwlad pen gronyn bach;
Nid oes na phoen na gofid
yn hyfryd dyernas Dduw,
Fy nef i drag'wyddoldeb
fydd gwel'd fy Mhriod gwiw.
Ar fyrr caf rodio'r llwybr
na ddeuaf byth yn ol,
Mi rof ffarwel drag'wyddol
i'r holl forwynion ffol;
Fe dderfydd son am bechod
cystuddiau poen a braw,
Gwyn fyd ga'i draw'r Iorddonen
balmwydden yn fy llaw.
Morgan Rhys 1716-79Golwg o Ben Nebo, 1764.
- - - - -
Fy rhan yw'r Oen fu farw
Ar ben Calfaria draw;
Ar fyr fe'm dwg i'r bywyd
Yn hyfryd yn ei law;
Mae'n awr yn eiriol droswyf
O fewn i deyrnas ne',
Gan bledio'r gwaed dywalltwyd,
Bob mynyd, yn fy lle.
Mae imi yno Ddyddiwr,
Eiriolwr gyda'r Tad;
Trwy'r Archoffeiriad perffaith
Daeth iachawdwriaeth rad:
Fy Mrenin yw a'm Proffwyd,
Fe'm dysg o awr i awr;
Fy Mhriod cu a'm Cyfaill
I dragwyddoldeb mawr.
William Williams 1717-91 (?)Dyferion y Cysegr 1809
Tonau [7676D]: gwelir: Ar fyr mi deithiaf llwybyr Caned y genedl gyfiawn |
My portion is the Lamb who died
on the summit of Calvary yonder;
I will get to be one of his company
on the happy day to come;
He is now interceding for me
within the kingdom of heaven,
Arguing his blood and his wounds,
every minute, in my place.
He is my dear Mediator
who reconciled me to the Father,
My precious High Priest
who sacrificed for me his blood;
My King he is and my Prophet,
he teaches me from hour to hour;
My dear Spouse and my Friend
for a great eternity.
There is no pleasure under heaven
or delight in the world,
But Jesus the desirable pearl
who satisfies my precious soul;
I will put my trust in him
whatever is yet to come,
My life in his wounds
was hidden secretly.
Through seas of afflictions
he will lead me home whole,
I shall escape through the Jordan
to my land after a little while;
There is neither pain nor grief
in the delightful kingdom of God,
My heaven for an eternity
shall be to see my worthy Spouse.
Shortly I will get to walk the path
from which I will never come back,
I will bid eternal farewell
to all the foolish virgins;
Mention shall vanish of sin,
tribulations, pain and fear,
Blessedly I will get beyond the Jordan
a palm branch in my hand.
- - - - -
My portion is the Lamb who died
On top of yonder Calvary;
Shortly he will bring me to the life
Delightfully in his hand;
He is now interceding for me
Within his kingdom of heaven,
While pleading the shed blood,
Every minute, in my place.
There is for me there a comforter
An intercessor with the Father;
Through the perfect High Priest
Came free salvation:
My King he is and my Prophet,
He will teach me from hour to hour;
My dear Spouse he is and my Friend
For a great eternity.
tr. 2011,16 Richard B Gillion
|
|